Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 12 Chwefror 2018
Amser:
14.02 -
17.08
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4507
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Neil Hamilton AC Adam Price AC Lee Waters AC |
Tystion: |
Harri Colman, Fabric Christopher Dunn, Voices from Care Cymru Deborah Jones, Voices from Care Kate Lawson, Y Rhwydwaith Maethu Sean O’Neill, Plant yng Nghymru Colin Turner, Y Rhwydwaith Maethu |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Anthony Barrett - Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol Matthew Mortlock |
Staff y Pwyllgor: |
Anthony Barrett Matthew Mortlock Meriel Singleton (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Sian Thomas (Ymchwilydd) |
1.1 Cyfarfu'r Aelodau yn anffurfiol â'r bobl ifanc cyn y sesiynau tystiolaeth.
2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.
2.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Vikki Howells AC a Rhianon Passmore AC. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
2.3 Yn dilyn cais gan y bobl ifanc a oedd yn rhoi tystiolaeth yn eitemau 4 a 5, cytunodd y Cadeirydd i gynnal y sesiynau hyn yn breifat.
3.1 Cafodd y papurau eu nodi.
4.1 Cafodd yr Aelodau dystiolaeth gan bobl ifanc o Voices from Care fel rhan o'i ymchwiliad i blant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal.
5.1 Cafodd yr Aelodau dystiolaeth gan Harri Coleman, ynghyd â phobl ifanc o Voices from Care, fel rhan o'i ymchwiliad i blant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal.
6.1 Cafodd yr Aelodau dystiolaeth gan Kate Lawson a Colin Turner o'r Rhwydwaith Maethu fel rhan o'i ymchwiliad i blant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal.
6.2 Cytunodd Kate Lawson i anfon enghreifftiau o arfer gorau o ran mesur effaith maethu o'i phrofiad yn Lloegr.
6.3 Cytunodd Colin Turner i anfon manylion ynghylch sesiynau sydd ar y gweill fel rhan o'r prosiect ‘Ten top key principles of social pedagogy’.
7.1 Derbyniwyd y cynnig.
8.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.
9.1 Nododd yr Aelodau y llythyr a bod y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i gynhyrchu ffilm a theledu, a fydd yn cynnwys edrych ar dryloywder a chyllid grant.
9.2 Cadarnhaodd yr Aelodau y byddent yn awyddus i weld astudiaeth o'r ffeithiau yn unig yn edrych ar y buddsoddiad yn Pinewood, gan eu bod yn teimlo y byddai hyn o ddiddordeb i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a/neu'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.
10.1 Trafododd yr Aelodau y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth drafft, gan ei nodi. Awgrymwyd y dylid ystyried bod y Pwyllgor perthnasol yn cynnal gwrandawiadau cyn penodi, ac y dylid adlewyrchu hyn yn yr ymateb i Lywodraeth Cymru.